Coetiroedd Gwlyb
Mae coetiroedd gwlyb yn nodwedd bwysig ar lannau afonydd, ar waelodion gwlyb cymoedd ac ar lethrau dwrlawn. Fe’u ceir yn aml mewn brithweithiau cymhleth gyda choetiroedd cymysg sychach, neu ar ffurf llaciau yng nghoedwigoedd derw’r ucheldir. Y rhywogaethau nodweddiadol mewn ffeniau gwlyb yw coed gwern, helyg llwyd a helyg deilgrwn ac mae bedw llwyd yn nodwedd neilltuol ar lethrau dwrlawn. Ceir gwifwrnwydd y gors a breuwydd yn aml fel rhywogaethau nodweddiadol mewn coetiroedd gwlyb.
Mae cyfansoddiad fflora’r llawr yn adlewyrchu amodau’r tir. Gellir cael fflora gwerni gydag amryw o rywogaethau o hesg (yn cynnwys hesgen y dŵr, yr hesgen bendrom, yr hesgen rafunog a’r hesgen blodau anghyfagos), gold y gors, gellesg, cegiden y dŵr, y glwbfrwynen bengron, berw chwerw hyblyg, blodau llefrith, cynffon y gath, brigwellt garw a phefrwellt yn y safleoedd gwlypaf ar waelod y cymoedd a, lle mae’r tir yn arbennig o wlyb a mawnog, gellir cael migwyn a thwffiau o fwsogl polytrichum yn aml. Bydd ffeniau o goed gwern, bedw llwyd a helyg yn gallu ymledu’n rhwydd i laswelltiroedd corsiog ac i weddillion porfeydd rhos lle mae twffiau anferth o laswellt y gweunydd a thamaid y cythraul hir a gwelw ei ddail yn rhoi awgrym o’r cynefin a gollwyd, ymysg y llwyni prysgwydd gwlyb.
Ar lethrau dirlawn y cymoedd, mae coetir gwern a bedw llwyd yn nodwedd ar y tir gwlypach, gyda fioledau’r gors yn aml yn chwaer rywogaeth iddynt. Mae amodau tir gwlyb yn ddelfrydol ar gyfer rhedyn ac, ymysg y rhai arferol, gellir cael y rhedynen gyfrdwy sydd yn brin ond yn werth chwilio amdani.
Rhywogaethau Cysylltiedig
-
Coed gwern
-
Coed helyg llwyd
-
Coed helyg deilgrwn
-
Bedw llwyd
-
Gwifwrnwydd y gors
-
Breuwydd
-
Yr hesgen bendrom
-
Gold y gors
-
Gellesg
-
Cegiden y dŵr
-
Y glwbfrwynen bengron
-
Berw chwerw hyblyg
-
Fioledau’r gors
-
Jac y Neidiwr
-
Telor helyg
-
Titw’r helyg
-
Titw’r wern
Astudiaeth Achos
Goresgynwyr y Coetir Gwlyb
Y tu ôl i’r ysgol gyfun yn Nhreorci mae darn rhyfeddol o goetir gwlyb lle’r oedd bioamrywiaeth ar ei gorau.
​
Mae Jac y Neidiwr wedi dechrau ymledu iddo dros y pum mlynedd diwethaf ac, yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, rydw i wedi bod yn tynnu’r chwyn hynny er mwyn ceisio datrys y broblem.
​
Mae tynnu Jac y Neidiwr yn waith eithaf egnïol os oes nifer mawr ohonynt, felly mae’n well gofyn i ychydig o ffrindiau ddod i helpu er mwyn cael yr effaith orau. Gallwch chi rannu’n dimau lle bydd un person yn cracio’r nodau cyntaf yn y darnau a dynnwyd ac yn eu didoli i bentwr fel na fyddant yn gallu ailwreiddio ac aildyfu.
​
Es i draw i’r coetir dair gwaith yn ystod y tymor oherwydd mae Jac y Neidiwr yn gallu ymledu dro ar ôl tro.
​
Mae hefyd yn bwysig siarad â’r perchnogion tir cyfagos er mwyn sicrhau bod pawb yn gefnogol cyn dechrau. Gall hyn fod yn broblem gan fod rhai pobl yn meddwl bod Jac y Neidiwr yn beth da i’r gwenyn a heb ystyried yr effaith yn y tymor hir. Y newydd da yw eu bod yn hawdd eu tynnu ac roeddwn i’n gallu gwneud gwahaniaeth ar fy mhen fy hun.
​
Y flwyddyn nesaf, rydw i am ofyn i’r gymuned gymryd rhan yn yr ardal am fod y planhigion hyn yn dal i ennill tir er gwaethaf fy ymdrechion. Rydw i’n gwybod, os na fyddwn ni’n mynd i’r afael â hyn, y bydd Jac y Neidiwr wedi ymledu i bob rhan o fynydd a choedwig Cwm-parc ymhen dim o dro gan fod pob planhigyn yn cynhyrchu 70-80 o hadau ac yn eu gyrru 7-8m i bob cyfeiriad.
Rydw i hefyd am ofyn i Ysgol Gyfun Treorci gymryd rhan am fod Jac y Neidiwr yn cymryd drosodd ei thir ac yn tanseilio fy ymdrechion achos dydw i ddim yn gallu cyrraedd y mannau hynny sy’n gyferbyn â’r goedwig wlyb.
​
Gyda’n gilydd, gallwn ni wneud gwahaniaeth.
​
Gareth Williams, Codwyr Sbwriel Rhondda
Safleoedd i’w gweld
-
Cors y Pant
-
Parc Dowlais
-
Coedwig Brynna
-
Gwarchodfa Natur Leol Glyncornel
-
Parc Gwledig Cwm Dâr
-
Llanilid
Dolenni defnyddiol
-
Buglife - Wet Woodland