Amrywiad neilltuol ond pwysig ar goetir naturiol yw coed pori. Mewn rhannau o Brydain, crëwyd coed pori drwy drefniadau rheoli coetir strwythuredig iawn, gyda choed wedi’u tocio (yn tyfu’n uwch na lefel pori’r da byw) yn sefyll uwchben fflora llawr coetir wedi’i bori. Yn RhCT mae pori mewn coetiroedd yn arfer hirsefydlog a byddai llawer o goetiroedd lled-naturiol y Fwrdeistref Sirol wedi cael eu defnyddio fel hyn. Bydd dull rheoli o’r fath yn creu llennyrch agored mewn coetiroedd, gan atal adfywio a rhwystro coed mwyar duon a rhedyn rhag tyfu. Mae coed pori yn creu amodau cynefin sy’n addas ar gyfer y tingoch, telor y coed a’r brenin gwargrych bonddu, gloÿnnod britheg ac, os na fydd yn cael ei bori’n rhy drwm, gall ddatblygu fflora llawr cyfoethog ei rywogaethau. Mae’r ymdrech i adfywio coetiroedd, drwy gau da byw allan yn llwyr o goetiroedd, wedi bod yn llwyddiant mawr o ran caniatáu adfywio coetiroedd. Felly, mae pori gan dda byw sydd wedi’i reoli’n ofalus yn gallu bod yn ffordd bwysig i gynnal amrywiaeth yn ein coetiroedd.
​
Yn RhCT, mae llond llaw o diroedd parc gweddilliol yn cynnal cynefin tebyg i goed pori. Mae’r parciau hanesyddol hyn (ac ambell gornel ar dir arall) yn aml yn cynnal coed hynod (a all fod wedi’u plannu) o fewn tir parc sy’n cael ei bori neu ei dorri. Yn aml, ceir coed derw, ynn, ffawydd ac weithiau castanwydd pêr sydd yn aml yn anferth, ac yn hanner marw fel arfer, ac yn ffurfio ecosystemau ar wahân ar gyfer pob math o ffyngau, cen, infertebratau sy’n turio ac yn chwilota, adar ac ystlumod. Mae rhai rhywogaethau arbenigol iawn yn dibynnu ar goed hynod y tir parc. Prin iawn yw’r tiroedd parc yn RhCT sydd wedi’u hasesu am eu bioamrywiaeth. Nid ydym yn gwybod pa ffyngau neu infertebratau a geir ynddynt ac, er ein bod yn gwybod eu bod yn gynefinoedd i ystlumod, nid ydym yn deall eu pwysigrwydd yn y cyswllt hwnnw.
Rhywogaethau Cysylltiedig
-
Y tingoch
-
Telor y coed
-
Y brenin gwargrych bonddu
-
Y gnocell werdd
-
Gloÿnnod britheg – y fritheg werdd, y fritheg berlog fach
-
Y gweirlöyn brych
-
Parc Gwledig Cwm Dâr
Dolenni defnyddiol
-
Woodland Trust - Wood Pasture and Parkland
-
National Trust - Restoring Wood Pasture