top of page

Mae ar amffibiaid (llyffantod melyn, llyffantod dafadennog a madfallod dŵr) angen pyllau dŵr i fridio ynddynt, glaswelltiroedd, gweundir a mawnogydd i chwilota ynddynt, a gorchudd trwchus i aeafu o dano. Mae ein hinsawdd gwlyb a mwyn, ein rhwydwaith o byllau a gwlyptiroedd, a’n trysorfa o gynefinoedd lled-naturiol yn golygu bod cynefinoedd delfrydol i amffibiaid yn RhCT.

Mae’r llyffant melyn yn niferus ym mhobman yn RhCT, ym mhyllau dŵr glaswelltiroedd asidig yr ucheldir ar ben y bryniau uchaf yn ogystal ag yn y pyllau dŵr yng ngerddi’r maestrefi. Bydd y llyffant melyn yn silio’n gynnar iawn bob blwyddyn yn RhCT a gellir gweld grifft yn rhywle erbyn canol neu ddiwedd Ionawr. Mae’n ddiddorol nad yw uchder y cynefinoedd yn ffactor sy’n effeithio ar hyn i bob golwg, a gellir cael grifft y llyffant melyn mewn pyllau agored lle mae perygl o lwydrew yn yr ucheldir yr un mor gynnar ag mewn pyllau cysgodol yn yr iseldir. Bydd y cyfnod silio yn RhCT wedi dod i ben erbyn dechrau Mawrth. Mae’r llyffant dafadennog yn fwy dibynnol ar byllau a llynnoedd mawr ond mae hefyd yn eang ei ddosbarthiad ac yn rhywogaeth gyffredin yn RhCT.

Mae’r fadfall ddŵr balfog yn gyffredin iawn yn y ddau draean mwyaf gogleddol yn RhCT. Fe’i ceir yn aml mewn llynnoedd dŵr asidig, mewn pyllau dŵr, a hyd yn oed yn y llecynnau o ddŵr bas sy’n cael eu gadael gan gerbydau ar draciau coedwigaeth. Ar y llaw arall, mae’r fadfall ddŵr gyffredin i’w chael yn rhannau deheuol y Fwrdeistref Sirol yn unig ac mewn pyllau dŵr llai asidig. Ceir madfallod dŵr cribog yn neau RhCT mewn rhwydwaith gwasgarog o safleoedd lle mae pyllau dŵr naturiol neu byllau dŵr ôl-ddiwydiannol/sborion glo, ac mae rhwydwaith tebyg o safleoedd yn yr ucheldir am y ffin ag ardal Merthyr Tudful.

Lle i’w gweld yn RhCT

Cyrff dŵr ledled RhCT

bottom of page