(c) SEWRT
Y rhain yw’r rhywogaethau neu grwpiau o rywogaethau y nodwyd eu bod yn allweddol yn RhCT. Ar gyfer rhai ohonynt, mae stori neu gam gweithredu penodol rydym am dynnu sylw ato, a gallwch eu gweld yma. Mae nifer o rywogaethau eraill yn bwysig yn RhCT ond mae camau gweithredu ar eu cyfer wedi’u cynnwys yn y Cynlluniau Gweithredu ar gyfer Cynefinoedd. Mae rhestr lawn o’r rhywogaethau a warchodir yng Nghymru ar gael yma.
Amffibiaid
Mae ar amffibiaid (llyffantod melyn, llyffantod dafadennog a madfallod dŵr) angen pyllau dŵr i fridio ynddynt, glaswelltiroedd, gweundir a mawnogydd i chwilota ynddynt, a gorchudd trwchus i aeafu o dano. Mae ein hinsawdd gwlyb a mwyn, ein rhwydwaith o byllau a gwlyptiroedd, a’n trysorfa o gynefinoedd lled-naturiol yn golygu bod cynefinoedd delfrydol i amffibiaid yn RhCT.