Yr ystlum lleiaf a’r ystlum meinlais yw’r ddwy rywogaeth fwyaf cyffredin sydd gennym. Nid yw’n glir beth yw statws y trydydd ystlum lleiaf, ystlum Nathusius. Mae’r ystlum lleiaf a’r ystlum meinlais yn gyffredin iawn ac yn hirsefydlog yn RhCT. Mae adolygiad o sampl o adroddiadau am arolygon ystlumod yn awgrymu bod yr ystlum meinlais yn cael ei gofnodi’n amlach yn RhCT na’i berthynas agos. Mae’r ddwy rywogaeth hyn yn gallu addasu i nifer o wahanol fathau o dai ac adeiladau ond byddant hefyd yn clwydo mewn coed a’r rhain yw’r rhywogaethau sy’n cael eu cysylltu amlaf ag ardaloedd trefol. Y rhain hefyd yw’r lleiaf sensitif i oleuadau strydoedd a gerddi (neu, yn fwy manwl, yn cael eu haflonyddu leiaf gan olau artiffisial). Cafwyd y ddwy rywogaeth yn gaeafu mewn hen dwneli rheilffyrdd.
Yr ystlum hirglust yw’r rhywogaeth fwyaf cyffredin nesaf a gofnodwyd yn yr adolygiad o’r sampl o arolygon. Fel arfer, byddant yn clwydo mewn ysguboriau neu adeiladau sydd â gofod mawr o dan eu toeau. Mewn arolygon o weithgarwch, fe’u ceir yn aml yn bwydo mewn gerddi coediog neu fuarthau fferm. Cafwyd ystlumod hirglust yn gaeafu yn atigau adeiladau ac mewn twneli rheilffyrdd yn RhCT.
Rhywogaeth yr afonydd a’r llynnoedd yw ystlum y dŵr. Anaml y byddant yn dod i’r golwg yn yr arolygon arferol o adeiladau sy’n ofynnol ar gyfer ceisiadau cynllunio ond maent wedi’u cofnodi mewn arolygon o weithgarwch ar gyrsiau dŵr cyfagos. Mae’r dystiolaeth sydd gennym yn awgrymu eu bod yn gyffredin ar hyd dyffrynnoedd yn RhCT. Mae’r llynnoedd ym Mharc Gwledig Cwm Dâr yn lle da i weld ystlumod y dŵr yn hela wrth hedfan yn isel yn eu patrwm ffigur wyth nodweddiadol ar draws wyneb y llynnoedd. Mae ystlumod Natterer hefyd wedi’u cofnodi’n aml mewn arolygon ar gyfer ceisiadau cynllunio. Mae’n ymddangos bod dosbarthiad y rhain hefyd yn eang yn y Fwrdeistref Sirol. Dwy rywogaeth y mae’n anodd iawn gwahaniaethu rhyngddynt yw’r ystlum barfog ac ystlum Brandt felly mae’r ddwy rywogaeth yn cael eu nodi fel posibilrwydd yn aml mewn adroddiadau am ystlumod. Mae’r ddwy rywogaeth wedi’u cofnodi ac, ar sail confensiwn, mae’n debygol mai’r ystlum barfog yw’r mwyaf cyffredin.
Y rhywogaeth yn RhCT sy’n fwyaf trawiadol wrth hedfan yw’r ystlum mawr. Ystlum o faint gwennol ddu yw hwn sy’n troelli a phlymio, yn esgyn a disgyn, wrth hedfan gyda’r hwyr. Mae’r ystlumod cyfareddol hyn yn clwydo mewn coed ac, yn fuan ar ôl machlud haul, byddant yn ymddangos (megis drwy hud) uwchben eu hoff fannau hela, a’u galwadau’n seinio’n uchel o’r synwyryddion ystlumod. Lleoedd ardderchog i wylio’r ystlum mawr yn hela yw glaswelltiroedd cyfoethog eu rhywogaethau sy’n llawn chwilod y dom gyda’r nos ym mis Mai, a lle mae chwimwyfynod rhithiol yn dawnsio ym mis Gorffennaf. Mae’n ymddangos bod ystlumod mawr yn gyffredin ac yn eang eu dosbarthiad yn RhCT ac fe’u cofnodir yn aml mewn arolygon o weithgarwch ar gyfer ceisiadau cynllunio. Cafwyd nifer bach o gofnodion o’r ystlum adain lydan, perthynas i’r ystlum mawr sydd ychydig yn llai, a hynny yn neau’r Fwrdeistref Sirol, ond mae’n cael ei gofnodi’n amlach bellach yn y blynyddoedd diwethaf ac mae’n ymddangos ei fod yn ymledu ymhellach i’r gogledd.
O blith y rhywogaethau ‘prinnach’, cofnodwyd yr ystlum du ar ddechrau’r 2000au yn ystod gwaith ar gyfer cais cynllunio yn ardal Llanharan. Am fod yr ystlumod hyn yn clwydo mewn coed ac yn dibynnu ar ardaloedd eang o goedwigoedd cysylltiedig, perthi a gwlyptiroedd ar gyfer chwilota, mae’n bosibl bod tirweddau RhCT yn addas i’r ystlum du. Fodd bynnag, gwaith anodd yw cofnodi’r ystlumod hyn, ac rydym yn dibynnu ar hyn o bryd ar eu darganfod ar hap gan ffyddloniaid grŵp ystlumod y Cymoedd neu wybodaeth o arolygon ystlumod ar gyfer ceisiadau cynllunio. Mae rhywogaeth arall o ystlumod y coetir, ystlum Bechstein, sydd heb ei chofnodi yn RhCT, ond mae rhannau coediog o Gwm Cynon a’r rhannau o ardal Taf/Elái sydd yn RhCT yn ymddangos yn addas iddynt.
Nid oedd yr ystlum pedol lleiaf wedi’i ddarganfod yn RhCT tan 16 mlynedd yn ôl. Fodd bynnag, ers hynny mae’r rhywogaeth hon wedi’i chanfod ar draws hanner deheuol RhCT (yn hedfan hyd yn oed drwy strydoedd Pontypridd o dan y goleuadau) a hefyd yng Nghwm Cynon (yn y deng mlynedd diwethaf), ac rydym yn gwybod bellach am nifer o glwydfannau magu pwysig. Ymhlith y rhain y mae clwydfan mawr a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer ystlumod pedol lleiaf sy’n gallu cynnal mwy na 400 o ystlumod benyw mewn blwyddyn dda. Gwyddom hefyd am nifer o safleoedd gaeafu, yn cynnwys rhai lle defnyddir clwydfannau magu, tai allan cerrig bach, mwynfeydd gwag a hen dwneli rheilffyrdd. Nid oes yr un safle lle ceir ystlumod pedol lleiaf yn RhCT sy’n cael ei warchod drwy ei ddynodi’n ACA neu’n SoDdGA. Mewn gwaith diweddar ar gyfer cais cynllunio, cofnodwyd ystlumod pedol mwyaf yn defnyddio mannau agored ar ochrau’r mynydd a thirweddau coetir/glaswelltir corsiog ac yn clwydo/gaeafu mewn hen dwneli rheilffyrdd. Mae’n ymddangos bod o leiaf un clwydfan magu ar gyfer yr ystlum pedol mwyaf yn RhCT sydd heb ei ddarganfod eto yn ardal Llanharan. Nid ydym yn gwybod a oedd yr ystlumod pedol lleiaf a mwyaf yn bresennol drwy’r amser yn RhCT (ond heb eu darganfod) neu a ydynt wedi dod yn fwy cyffredin ac eang eu dosbarthiad yn ddiweddar. Fodd bynnag, hyd yn ddiweddar, nid oedd RhCT yn cael ei hystyried yn ardal a oedd yn cynnal y naill na’r llall o’r ddwy rywogaeth hyn. Dyma enghraifft arall o’r darganfyddiadau newydd a chyffrous y gellir eu cael yn RhCT.
Lle i’w gweld yn RhCT
Mewn adeiladau neu selerydd neu’n hedfan uwchben ar nosweithiau cynnes a chymylog