top of page

O’r holl blanhigion sydd gennym, mae un math o flodeuyn yn dwyn i gof ryfeddodau’r gwanwyn bob blwyddyn ac yn goron ar y cwbl – clychau’r gog. Yng nghoedwigoedd, ar fryniau ac ar hyd ffyrdd cefn RhCT bydd cytrefi clychau’r gog yn ymystwyrian. Bydd dail suddlon y lluoedd o glychau’r gog wedi ffurfio carpedi trwchus. Yn ystod mis Ebrill, bydd yr ysbigau blodau glas wedi dechrau codi. Wrth i grychlais telor y coed ddychwelyd, bydd clychau’r gog yn dechrau blodeuo, fesul un a dau i ddechrau ond yn gynt wedyn wrth i’r gwanwyn gyrraedd ei anterth, gan greu niwlen asur o filoedd o ysbigau blodeuog.

Clychau’r gog yn eu blodau sydd yn ymgorffori’r gwanwyn i ni, yn arwydd ein bod yn ffarwelio â gwyntoedd oer y gaeaf ac yn edrych ymlaen at haf sydd i ddod. Mae hefyd yn ffenomen naturiol sydd bron yn unigryw i Ynysoedd Prydain. Fe geir clychau’r gog ar dir mawr Ewrop, ond nid yn y fath niferoedd ag rydyn ni’n eu mwynhau. Yn well byth, nid mewn coedwigoedd yn unig y ceir clychau’r gog yng Nghymru. Maent yr un mor gartrefol ar ochrau’r cymoedd ac ar y cloddiau. Os codwch eich llygaid, gallwch fwynhau’r sioe o flodau gleision ar lethrau’r ffridd wrth edrych o’r stryd yn disgwyl bws neu wrth sefyll yn stond mewn tagfa draffig ar fore o Fai.

Mae clychau’r gog wedi’u gwarchod gan y gyfraith ond, yn RhCT, y bygythiad mwyaf iddynt yw eu croesi â chlychau’r gog Sbaenaidd, blodeuyn anfrodorol diolwg a geir mewn gerddi. Mae’r broblem hon yn codi’n arbennig lle mae sbwriel o’r ardd yn cael ei adael ar gyrion coetiroedd. Manteisiwch ar y tywydd braf ar ddiwedd Ebrill neu ym mis Mai i fynd am dro hamddenol drwy’r lleiniau agosaf o glychau’r gog a chofiwch aros am eiliad i’w mwynhau.

Lle i’w gweld yn RhCT

Coetiroedd a hen lonydd ledled RhCT

bottom of page