Y cyfnod o ganol haf ymlaen yw’r amser gorau i gofnodi criciaid a cheiliogod rhedyn. A siarad yn gyffredinol, mae gan griciaid y gors deimlyddion hir iawn (cyn hired â chorff y pryf neu’n hirach), tra bo’r teimlyddion sydd gan geiliogod rhedyn yn fyr (yn fyrrach o lawer na hyd y corff cyfan). Ceir chwe phrif rywogaeth o griciaid y gors yn RhCT ac maent yn gymharol hawdd eu hadnabod. Mae’r criciedyn hirgorn tywyll i’w gael yn bennaf yn rhannau deheuol RhCT, yn trigo mewn perthi, ar ymylon glaswelltir bras ac ar glytiau o dir lle mae coed mwyar duon yn tyfu. Trydariad byr yw ei gân a gellir ei glywed ar ddiwedd haf ac ymlaen i’r hydref. Mae’r criciedyn hirgorn brith a chriciedyn hirgorn y dderwen yn rhywogaethau sy’n perthyn i goetiroedd, perthi a phrysgwydd. Mae’r ddau yn anodd dod o hyd iddynt, er bod eu dosbarthiad yn eang ac er eu bod yn gyffredin yn lleol. Er hynny, mae criciaid hirgorn y dderwen yn ddigon parod i ddod i mewn i’r tŷ a gellir eu gweld ar y nenfwd mewn ystafelloedd gwely. Mae trydariad y criciedyn hirgorn brith yn uchel ac anghlywadwy a’r ffordd orau i’w glywed yw drwy synhwyrydd ystlumod (rheswm da arall dros ei brynu).
Yn y deng mlynedd ar hugain diwethaf mae rhai rhywogaethau o griciaid y gors wedi symud yn rhyfeddol o bell i’r gogledd a’r gorllewin yn Ynysoedd Prydain mewn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Y bedwaredd a’r bumed rywogaeth o griciaid y gors yw’r criciedyn penfain adain fer a’r criciedyn penfain adain hir. Rhywogaethau safleoedd glaswelltir corsiog/porfa rhos yw’r rhain sydd wedi cytrefu yn ein hardal yn y degawdau diwethaf, fel y mae criciedyn hirgorn Roesel sydd bellach i’w gael yn rhai o’n safleoedd glaswelltir mwy sych. Un rhywogaeth goll rydym yn gobeithio dod o hyd iddi eto yn RhCT yw criciedyn hirgorn y gors, un o rywogaethau arbenigol mawnogydd yr iseldir a gafwyd o’r blaen yn ardal Pen-coed/Brynna, ar y ffin rhwng RhCT ac ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’n fwy anodd gwahaniaethu rhwng y rhywogaethau o geiliogod rhedyn ac mae hyn yn galw am fwy o ofal ac ymarfer. Ar hyn o bryd, mae gennym gofnodion o ddim ond pedair rhywogaeth (er bod pob un o’r pedair yn gallu bod yn niferus). Mae tair rhywogaeth yn nodweddiadol iawn o nifer o wahanol fathau o gynefinoedd glaswellt hir. Y rhain yw’r ceiliog rhedyn gwyrdd cyffredin (Omocestus viridulus), ceiliog rhedyn y maes (Chorthippus brunneus) a cheiliog rhedyn y ddôl (Chorthippus parallelus). Mae’n debyg mai’r ffordd hawsaf i wahaniaethu rhyngddynt yw wrth eu trydar.
Ceir teulu o bryfed bach disylw sy’n perthyn yn agos i geiliogod rhedyn o’r enw Tetrigidae. Mae dwy rywogaeth, Tetrix undulata a Tetrix subulata, wedi’u cofnodi yn y Fwrdeistref Sirol. Y lleoedd gorau i ddod o hyd i’r ddwy rywogaeth hyn yw cynefinoedd tir moel fel tomenni sborion glo, tir gwastad ôl-ddiwydiannol a hyd yn oed randiroedd.
Mae cymaint i’w ddysgu am ddosbarthiad criciaid y gors a cheiliogod rhedyn. Os dysgwch chi’r caneuon, bydd yn haws i chi eu hadnabod a dyma ffordd dda i wneud argraff ar eich teulu a’ch ffrindiau!
Lle i’w gweld yn RhCT
Glaswelltiroedd a gerddi ledled RhCT