Er gwaethaf y tywydd garw a geir weithiau yn yr haf a mwynder y gaeafau (sydd heb fod yn ddelfrydol i nifer o rywogaethau), oherwydd amrywiaeth y cynefinoedd lled-naturiol yn RhCT, mae gennym 33 o rywogaethau o’r gloÿnnod sy’n bridio yma neu’n ymweld yn gyson, yn ogystal â’r fritheg frown sy’n destun ymdrechion ar gyfer ailgytrefu o Gwm Alun ym Mro Morgannwg gerllaw.
Yng nghyd-destun cynefinoedd, gellir rhannu ein ffawna gloÿnnod ar sail mathau cyffredinol o gynefin. Oherwydd amrywiaeth y glaswelltiroedd cyfoethog eu rhywogaethau, mae gennym boblogaethau cryf o rywogaethau’r glaswelltir. Ceir tri math o wibwyr y glaswelltir, y gwibiwr bach, y gwibiwr mawr ac, yn y blynyddoedd diwethaf, y gwibiwr bach cornddu (sydd wedi dod i RCT), a’r tri gweirlöyn cyffredin, gweirlöyn y ddôl, gweirlöyn y glaw a gweirlöyn y perthi, ac os byddwch yn lwcus fe welwch chi’r gweirlöyn cleisiog du a gwyn. Mae’r glesyn cyffredin gemaidd yn driw i’w enw (a’i niferoedd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn), a’r copor bach hyfryd yw’r glöyn olaf a welir ar laswelltir yn yr hydref gan amlaf. Ceir y gloÿnnod glaswelltir hyn hefyd ar laswelltir corsiog a phorfeydd rhos, ond yma fe geir hefyd y gwynion blaen oren (a fydd yn dod i’r golwg ar ddiwedd Mawrth os yw’n wanwyn cynnes) sy’n dibynnu ar y blodau llefrith mawr sy’n frith mewn caeau brwynog gwlyb, a’r fritheg berlog fach a britheg y gors sydd â chysylltiad arbennig â phorfa rhos. Mae’r ffriddoedd, gweunydd a phorfeydd asidig yn cynnal nifer o’r rhywogaethau uchod ond hefyd yn cynnwys eu rhywogaethau arbenigol ychwanegol eu hunain, yn cynnwys yr unig löyn ‘gwyrdd’ sydd gennym, y brithribin gwyrdd, y fritheg werdd, y gweirlöyn llwyd a gweirlöyn bach y waun. Lle mae cynefin sborion glo yn mynd yn gymysg â ffridd, gellir cael niferoedd mawr o’r gweirlöyn llwyd a’r brithegion ac mae’r safleoedd hyn yn gadarnle hefyd i’r gwibiwr llwyd, y glesyn bach a gweirlöyn y cloddiau, sydd i gyd yn rhywogaethau sy’n dibynnu ar ficrohinsawdd cynnes y tomenni sborion glo.
Mae’r rhan fwyaf o loÿnnod y coetir yn ffynnu mewn llennyrch heulog neu ar ymyl coetir (nid yw coetir trwchus tywyll yn gynefin addas i loÿnnod). Mae’n debyg mai’r brithribin porffor yw’r rhywogaeth sy’n fwyaf nodweddiadol mewn coetir ac mae’r oedolion yn treulio eu hoes ym mrig y coed derw. Rhywogaeth y coetir, prysgwydd, perthi a gerddi yw’r gweirlöyn brych, a gellir dod o hyd i’r brithribin w wen mewn coed llwyfen lydanddail ym mron pob man. Mae melyn y rhafnwydd, y gellir ei weld ym mhobman yn RhCT mor gynnar â mis Chwefror, yn dodi ei wyau ar y freuwydden ac felly, er bod y gwryw melyn llachar a’r fenyw wynnach yn crwydro’n eang, mae’n dibynnu ar goetiroedd gwlyb i fridio. Mae’r gwyn gwythïen werdd hyfryd yn bridio mewn coetir agored gwlyb a’r fritheg arian, glöyn hardd y llennyrch coediog, yn rhywogaeth anghyffredin yn RhCT.
Mae gweddill y ffawna gloÿnnod byw ychydig yn fwy cyffredinol o bosibl o ran y defnydd o gynefinoedd. Mae’r rheini sy’n bwydo ar ddanadl, y trilliw bach a’r fantell paun, yn gyffredin mewn gerddi, ond mae’r ddau’n llai cyffredin nag yr oeddent, a gall fod yn anodd dod o hyd iddynt mewn ambell flwyddyn. Mae’r fantell garpiog a’i siâp dail a’i adenydd blaen du ac oren yn rhywogaeth arall a geir mewn gerddi, perthi ac ar ymyl y goedwig ac mae’n un cyffredin, tra bo’r fantell goch yn rhywogaeth fwy cyffredin a mynych o lawer nag yr oedd yn arfer bod, ac yn gallu byw drwy’r gaeaf yn RhCT y dyddiau hyn. Mae’r fantell dramor, sy’n perthyn yn agos iddynt, yn ymfudo yma dros yr haf ar ôl ei daith ryfeddol ar draws y byd. Rhywogaeth ymfudol brinnach y gellir ei gweld ambell flwyddyn yn ystod yr haf yw’r llwydfelyn, ac mae poblogaethau’r gwyn bach a’r gwyn mawr yn cael eu chwyddo bob blwyddyn gan ymfudwyr.
Yn 2008, cyhoeddwyd y llawlyfr ‘Butterflies of Rhondda Cynon Taff’ gan Ben Williams. Mae’n cynnwys lluniau a disgrifiadau o’n ffawna gloÿnnod byw. Cafodd y llawlyfr penigamp hwn ei ddosbarthu’n eang gan Ben ac, am mai hwn oedd y llawlyfr cyntaf yn ymwneud yn benodol â bywyd gwyllt RhCT, roedd yn gaffaeliad mawr i bobl leol a oedd am ddod i adnabod gloÿnnod byw eu hardal.
Lle i’w gweld yn RhCT
Bydd gwahanol gynefinoedd yn cynnal gwahanol rywogaethau o loÿnnod byw.