Mae’n sicr mai cân y gog yw un o seiniau mwyaf atgofus y gwanwyn. Dyma’r gân aderyn y bydd y rhan fwyaf o bobl yn RhCT yn ei hadnabod, hyd yn oed os nad ydynt erioed wedi’i chlywed yn ei chynefin. Mae niferoedd yr adar mudol hyn, sy’n treulio ychydig o fisoedd gyda ni yn y gwanwyn a dechrau’r haf, yn dirywio’n gyflym yn y rhan hon o Gymru. Mae’r rhesymau am hyn yn gymhleth ac yn ymwneud â newidiadau yn yr hinsawdd ac mewn cynefinoedd yn y wlad hon a newidiadau tebyg yng nghynefinoedd mudo a gaeafu’r gog. O ganlyniad i hyn, anaml y clywir cân yr aderyn hwn yn iseldir RhCT, sef traean deheuol y Fwrdeistref Sirol, mewn mannau lle’r oedd y gog yn dodwy ei hwyau yn nythod llwyd y gwrych chwarter canrif yn ôl. Erbyn heddiw, dim ond oddeutu dwsin o gogau sy’n dod atom yn RhCT, ac mae’r rhain yn cadw at ffriddoedd ac ucheldiroedd y Cymoedd lle maent yn dodwy yn nythod corhedyddion y waun. Felly os byddwch yn clywed y gog yn canu o garreg eich drws yng Nghymoedd Rhondda neu Gynon, y rheswm am hynny yw bod corhedyddion y waun yn parhau i nythu ar ochrau’r cymoedd ac yn yr ucheldir. Mae ymchwil wedi dangos bod angen arwynebedd o 300 hectar o gynefin corhedydd y waun ar gyfer cogau sy’n dodwy yn eu nythod. Mae niferoedd corhedydd y waun yn gostwng hefyd ac mae arnynt angen cynefinoedd glaswelltir asidig agored, mawnogydd a gweundir ar gyfer nythu. Wrth edrych ar fap arolwg ordnans o RhCT, mae’n glir nad oes ond digon o gynefinoedd addas ar ffriddoedd ac yn yr ucheldir i gynnal y dwsin o gogau, fwy neu lai, sydd gennym. Gwaetha’r modd, mae’r rhan fwyaf o’n hucheldiroedd o dan blanigfeydd conwydd erbyn hyn ac nid ydynt yn addas bellach i gynnal cogau. Felly, os ydym am gadw cân y gog yn y gwanwyn, cân a glywodd ein hynafiaid bob gwanwyn ers i’r rhewlifoedd gilio 10,000 o flynyddoedd yn ôl, mae angen i ni drysori, gwarchod a gofalu am gorhedyddion y waun a’u cynefinoedd ar y ffridd a’r ucheldir agored.
Lle i’w gweld yn RhCT
Ochrau’r cymoedd