top of page

Ym Mehefin 1998, roedd Julian Woodman, Cofnodydd y BSBI (Cymdeithas Fotanegol Ynysoedd Prydain) dros Ddwyrain Morgannwg, yn cofnodi rhywogaethau yng Nghwm Clydach ar gyfer y prosiect Atlas 2000. Wrth chwilota ar hyd lôn bengaead daeth at hen chwarel segur lle’r oedd pwll o ddŵr bas. Yng nghefn y chwarel, ar ben cyfres o silffoedd cul ynghanol glaswelltir tenau ac wedi’i lled gysgodi gan lwyni helyg, er syndod mawr iddo, fe ddaeth o hyd i gytref ffyniannus o blanhigion penigan y porfeydd (Dianthus armeria). Roedd y planhigion penigan unflwydd hyn a’u blodau pinc llachar cain, yn ffynnu mewn pridd a oedd yn draenio’n rhwydd. Roedd y rhywogaeth hon, sy’n cael ei chysylltu fel arfer â phriddoedd calchaidd, cloddiau’r twyndir a lleiniau sych ar ymyl y ffordd, wedi ymgartrefu ar y silff heulog, gysgodol hon yng nghanol y Rhondda.

Yn y DU mae penigan y porfeydd wedi’i warchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad ac mae’n rhywogaeth mewn perygl sydd yn dirywio. Mae angen trin y silffoedd lle mae penigan y porfeydd yn tyfu o bryd i’w gilydd er mwyn i’r planhigyn flodeuo a hadu’n llwyddiannus. Mae’r boblogaeth hon wedi bod dan fygythiad yn y gorffennol oherwydd diffyg rheoli a oedd wedi arwain at ormod o dyfiant coed ar silffoedd blodeuog y chwarel. Cymerwyd camau i gael gwared â’r gordyfiant hwn ac mae’r profiad hwn wedi amlygu’r pwysigrwydd o fonitro a rheoli rhai o’r fflora a ffawna sydd yn y perygl mwyaf.

Lle i’w gweld yn RhCT

Cwm Clydach

bottom of page