top of page

Y pathew yw’r anifail sy’n cael ei warchod yn fwy na’r un arall gan gyfraith y DU a’r UE. Mae ei ddosbarthiad yng Nghymru yn anwastad ac, yn Rhondda Cynon Taf, rydym yn ffodus ein bod yn cynnal poblogaethau pwysig o’r rhywogaeth ddiddorol hon. Pan ysgrifennwyd y cynllun Gweithredu dros Natur gwreiddiol yn 2000, dim ond pedwar safle roeddem yn gwybod amdanynt fel cynefin i’r pathew yn RhCT. Roedd pob un ohonynt yn neau’r Fwrdeistref Sirol, sef dau yn ardal Llanharan, un ar ochr orllewinol Pont-y-clun ac un i’r dwyrain o Lantrisant. Mae’n debyg mai’r un mwyaf adnabyddus o hyd yw Coed Brynna/Cors Llanharan (sydd bellach yn Warchodfa Natur WTSWW), lle cofnodwyd y gytref gyntaf yn ystod yr Helfa Gnau Fawr ym 1983. Er hynny, dros y blynyddoedd mae’r bylchau yn y cofnodion am ddosbarthiad y pathew wedi cael eu llenwi i raddau helaeth. Gwyddom yn awr fod y pathew wedi hen ymsefydlu yn ardal Llanharan a Llanhari, gan ddefnyddio rhwydwaith o goetiroedd bach, llawer ohonynt yn wlyb, a pherthi sy’n cysylltu â’i gilydd. Yn ogystal â hyn, mae cofnodion mwy gwasgaredig am eu presenoldeb yn ymestyn tua’r dwyrain, drwy ardal Pont-y-clun/Llantrisant, a Llanilltud Faerdref/Pentre’r Eglwys, hyd Tŷ Rhiw yn y dwyrain (sy’n cysylltu â chytrefi ymhellach i’r dwyrain yn ardal Caerffili). Fe’u ceir hefyd yn awr ym mlaenau Cwm Cynon. Mae’n ymddangos bod y boblogaeth o bathewod i’w chael mewn tirweddau cydgysylltiedig o berthi cyfoethog eu rhywogaethau, coedwigoedd bach a darnau o brysgdir. Mae’r gytref newydd yng Nghwm Cynon wedi codi mewn perthi a nentydd coediog yn gysylltiedig â glaswelltiroedd corsiog. Mae’n sicr y bydd safleoedd a lleoliadau newydd i’w darganfod yn y coetiroedd a’r perthi yn y fro ar y ffin ogleddol (Tonyrefail i Bontypridd), yng nghoetiroedd Cwm Taf (rhwng Ffynnon Taf ac Abercynon) ac yng Nghwm Cynon. Dylid cynnal mwy o arolygon yn yr ardaloedd hyn.

Hyd yn eithaf diweddar, credwyd bod pathewod i’w cael ar safleoedd coetir mawr hynafol yn unig, lle byddai amrywiaeth rhywogaethau’r coed ac is-haen y goedwig yn gallu darparu’r ffynonellau bwyd a’r strwythur coetir sy’n cwrdd ag anghenion penodol y rhywogaeth hon. Yn ffodus, yn y degawd diwethaf, dechreuwyd dod o hyd i bathewod mewn mathau eraill o gynefin. Mae perthi wedi’u hystyried yn gynefin cysylltiol pwysig erioed, ac mae tystiolaeth fwy diweddar yn awgrymu bod cynefin o’r fath yn gallu cynnal poblogaethau o bathewod. Ceir cytrefi pathewod mewn rhannau helaeth o’r isglogwyni yn Lyme Regis yn swydd Dorset ac mewn planigfeydd conwydd ar safleoedd coetiroedd hynafol, ac fe’u cafwyd hefyd yn defnyddio cyfarpar bwydo adar mewn gerddi (lle mae gerddi am y terfyn â choedwigoedd neu hen berthi, yn ôl pob tebyg). Mae hyn oll yn cynnig gobaith am ein gallu i warchod y pathew.

Lle i’w gweld yn RhCT

Rydych yn annhebygol o weld pathewod gan eu bod yn swil ac yn weithgar yn ystod y nos, ond efallai y byddwch yn gweld cnau wedi’u cnoi ganddynt! Gwyliwch y fideo hwn ac ewch am dro i Goedwig Brynna lle mae’n bosibl y gallech weld arwyddion o bresenoldeb y pathew.

bottom of page