top of page

Mae gennym dywydd mwyn a gwlyb drwy’r flwyddyn yn RhCT. Mae’n sicr nad yw’n ddelfrydol ar gyfer tyfu rhosod, ond mae ein hinsawdd gefnforol yn addas iawn i redyn. Ceir cynefinoedd ardderchog i redyn mewn coedwigoedd derw cysgodol, ar lannau llaith y nentydd ac yng ngwaith cerrig amherffaith y nifer dirifedi o bontydd a waliau sy’n wynebu’r gogledd. Mae fflora rhedyn Cymru yn enwog ac rydym yn ffodus o gael mwynhau harddwch cynnil a thoreithiog y planhigion hynafol hyn.

Gwelir rhedyn o lawr maint a siâp. Mae pawb yn gyfarwydd â rhedyn ungoes ac mae rhedyn mawr fel y farchredynen gyffredin, rhedynen Fair a’r farchredynen lydan yn nodweddion cyffredin mewn coedwigoedd, cloddiau a hen draciau rheilffyrdd. Mae’n debyg y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn gallu adnabod (os nad enwi) rhedyn tafod yr hydd, ond tybed faint o bobl sy’n gwybod am y cyfoeth o redyn trefol a geir yn ein strydoedd a’n trefi.

Gwnewch gwpanaid o de, rhowch eich esgidiau am eich traed ac ewch am dro bach i fyny neu i lawr llwybr yr ardd. Cymerwch olwg ar waliau’r ardd. Bydd nifer mawr ohonom yn gweld duegredynen y muriau a duegredynen gwallt y forwyn, ond faint o waliau sy’n gartref i’r dduegredynen gefngoch – sy’n hawdd ei hadnabod ac wedi’i henwi felly oherwydd y doreth o gennau coch dan bob deilen. Cyfrifwch y gwahanol fathau o redyn – faint sydd gennych chi? Oes gan rywun fwy na phedair rhywogaeth?

Mae glaswelltiroedd hefyd yn cynnwys nifer bach o rywogaethau rhedyn neilltuol. Mae tafod y neidr a’i un ddeilen hirgrwn fawr a’i bigyn ffrwythlon unigryw yn fath anghyffredin ac anarferol iawn o redyn a geir mewn hen ddolydd sydd heb eu gwella. Os rhywbeth, mae’r lloer-redynen yn rhyfeddach byth ac yn sicr yn brinnach. Os ydych yn fwy anturus, mae silffoedd oer cysgodol y cymoedd rhewlifol, y chwareli segur a’r cloddiau sgri yn cynnal casgliad gwahanol o redyn. Ceir rhywogaethau fel y rhedynach teneuwe, y rhedyn tridarn a’r rhedynen bersli mewn nifer bach o safleoedd ffafriol yn ucheldir y Fwrdeistref Sirol tua’r gogledd. Mae’r rhain yn rhywogaethau sy’n fwy cyffredin yn lledredau’r gogledd, a cheir rhai ohonynt, fel marchredynen y mynydd, yn eu cynefinoedd mwyaf deheuol yn y DU yn RhCT.

Mae llawer i’w ddysgu o hyd am ein fflora rhedyn brodorol yn RhCT. Gallwch adnabod y rhan fwyaf o redyn yn rhwydd ar ôl ychydig o ymdrech. Roedd pobl oes Victoria wedi meithrin cariad arbennig tuag at redyn sydd wedi darfod bron erbyn hyn. Tra bo garddwyr y teledu yn hyrwyddo’r defnydd o goedredyn Tasmania, wedi’u cipio o goedwigoedd is-drofannol darfodedig ym mhen draw’r byd, efallai ei bod yn bryd i ni ddechrau adnabod a gwerthfawrogi ein treftadaeth gyfoethog ein hunain o blanhigion rhedyn.

Lle i’w gweld yn RhCT

Coetiroedd ledled RhCT

bottom of page