Ffyngau yw’r rhan o fyd natur sydd yn aml yn cael ei hanghofio. Er bod ffyngau yn hanfodol i fywyd ar y Ddaear, maent wedi cael eu hanwybyddu a’u hesgeuluso a heb gael eu cynnwys yn aml mewn strategaethau cadwraeth a chyfreithiau amgylcheddol. Drwy gynllun Gweithredu dros Natur RhCT a gweithgarwch grwpiau lleol fel Grŵp Ffyngau Morgannwg a’r Grŵp Ffyngau Sborion Glo, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn newid yn y dyfodol!
Yn y DU mae ymhell dros 5,000 o rywogaethau o’r ffyngau mwyaf ac mae rhagor yn cael eu darganfod drwy’r amser. Mae ffyngau yn amrywiol iawn o ran eu ffurfiau a’u cynefinoedd. Maent yn cynnwys microffyngau, madarch a chaws llyffant, cawodydd coch a mathau eraill o ffyngau a geir ar blanhigion. Mae’n debyg bod y rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd ag amanita’r gwybed – cap coch â smotiau gwyn – y ceir lluniau ohono mewn nifer mawr o lyfrau plant. Bydd y ffyngau hyn yn tyfu fel arfer mewn cysylltiad â choed bedw ac fe’u ceir weithiau ym Mharc Aberdâr ac mewn mannau eraill yn RhCT. Ffwng coch arall sy’n dod i’r golwg ym misoedd y gaeaf yw’r cwpan robin goch. Ceir toreth ohono’n aml ar goed marw sydd wedi’i guddio gan fwsogl mewn mannau llaith. Mae ffwng y cwpan pren gwyrdd hefyd i’w gael ar goed marw ond y staen gwyrdd ar y coed a welir gan amlaf. Un ffwng crawennog a welir yn aml yn y gaeaf yw’r grawen las sydd i’w chael ar nifer o wahanol fathau o is-haenau – mae’n ymddangos mai RhCT yw un o’r lleoedd gorau i’r rhain! Gwelir capiau cwyr mewn amrywiaeth o liwiau, sydd yn aml yn llachar iawn, mewn porfeydd sydd heb eu gwella, hen fynwentydd eglwys ac weithiau ar lawntiau.
Mae cryfder rhywogaethau’r ffyngau yn RhCT yn cael ei fygwth drwy ddefnydd anystyriol o ffyngladdwyr a chwynladdwyr, cynlluniau plannu coed ar laswelltiroedd y capiau cwyr, a cholli coed hynod, ac enwi dim ond rhai o’r achosion. Gallwn gymryd camau i ddysgu mwy am y ffyngau yn RhCT a’u gwarchod. Mae rhai syniadau ar gyfer camau gweithredu wedi’u rhestru isod.
Lle i’w gweld yn RhCT
Parciau, coetir, porfa heb ei gwella, hen fynwentydd eglwys a hen lawntiau, gweundir, sborion glo, wrth ochr hawliau tramwy, mewn mannau glas ar safleoedd diwydiannol a safleoedd eraill.