top of page

Mae mynwent Cefn-y-parc yn weirglodd gyfoethog ei rhywogaethau sydd wedi’i rheoli er 2004 gan ddefnyddio dulliau gwarchod gweirgloddiau. Mae ei sioe o flodau gwyllt wedi gwella o flwyddyn i flwyddyn, ond mae un rhywogaeth sydd heb ymateb i’r dulliau rheoli. Y fynwent hon yw’r unig safle yn RhCT lle ceir tegeirian y waun. Lle’r oedd poblogaeth o 300 o blanhigion blodeuog ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, a 240 yn 2004 ac 80 yn 2005, mae’r boblogaeth o degeiriau’r waun ym mynwent Cefn-y-parc wedi dirywio ac yn ystod y degawd diwethaf wedi sefydlogi fel mai dim ond rhwng 6 a 18 o ysbigau blodau a geir yma erbyn hyn. Y gobaith yw y bydd cynnydd yn y pen draw yn niferoedd y tegeirian ystyfnig hwn, sydd yn adnabyddus am y cyfnod hir rhwng hadu a blodeuo. Er hynny, mae’r ffaith bod ei niferoedd yn isel wedi ein galluogi i fonitro’r planhigion unigol. O ganlyniad i hyn, rydym yn gwybod bellach y bydd y planhigyn yn blodeuo am gyfnod o 2 i 5 wythnos cyn iddo ddiflannu. Rydym hefyd yn gwybod bod nifer bach o blanhigion newydd yn ymddangos bob blwyddyn, ac mae hyn yn codi ein gobeithion. Mae hyn yn dangos hefyd fod angen amynedd weithiau wrth ddelio â rhywogaethau prin a chylchoedd bywyd cymhleth, a bod dilyn hynt planhigion unigol yn gallu taflu goleuni ar bethau pwysig.

Lle i’w gweld yn RhCT

Mynwent Cefn-y-parc

bottom of page