Roedd cynllun gweithredu penodol ar gyfer y draenog yn y cynllun Gweithredu dros Natur gwreiddiol. Cafodd y statws hwnnw drwy ‘bleidlais y bobl’ fel rhywogaeth a oedd yn cael ei thrysori’n lleol. Am nifer o flynyddoedd, byddai ‘map draenogod’ yn cael ei ddangos mewn digwyddiadau bioamrywiaeth a phobl yn cael eu hannog i roi pin yn y map i gofnodi lle’r oeddent wedi gweld draenogod yn ddiweddar yn RhCT. Nid oedd hwn yn ddull gwyddonol o bell ffordd, ond roedd yn dangos cofnodion ar gyfer holl drefi a maestrefi RhCT. Ar lefel genedlaethol, mae’r Arolwg o Famaliaid Prydain wedi nodi bod dosbarthiad draenogod ym Mhrydain yn anwastad. Mae’r hinsawdd wlyb a mwyn sydd gennym yn un a ddylai fod yn addas i ddraenogod, gan ei bod yn berffaith ar gyfer malwod a gwlithod (eu prif ffynhonnell fwyd). Mae’n ymddangos hefyd fod ysglyfaethu gan foch daear yn effeithio ar niferoedd y draenog a gwelwyd bod dwysedd poblogaethau draenogod yn is lle mae dwysedd y boblogaeth o foch daear yn uchel. Nid yw moch daear yn gyffredin yn RhCT, a gallai hyn argoeli’n dda i ddraenogod. Mae’n sicr bod llawer o ddraenogod yn cael eu lladd ar ein ffyrdd ac, os yw hynny’n arwydd o’u niferoedd, gallwn fod yn hyderus fod niferoedd rhesymol o’r draenog yn bresennol yn RhCT. Mae garddwyr yn gallu helpu draenogod yn y maestrefi ac mae camau gweithredu wedi’u dangos yn yr adran ‘Sut allaf helpu?’.
Lle i’w gweld yn RhCT
Gerddi ledled RhCT