Mae 9 rhywogaeth o lygod bach, pengrwn a mawr yn RhCT. O blith y llygod bach, mae llygod y coed yn niferus, yn enwedig ym mrithweithiau coetiroedd yr iseldir, glaswelltiroedd parhaol, gerddi a pherthi sy’n ffurfio rhan helaeth o ardal yr Awdurdod. Bydd llawer o bobl yn gweld llygod y coed yn eu gerddi neu’n mynd i mewn i dai a thai allan yn yr hydref, felly maent yn rhywogaeth gyfarwydd. Ar y llaw arall, nid oes gennym gofnodion positif am y llygoden fronfelen. Er hynny, mae cysylltiad cryf rhwng y rhywogaeth goedwigol hon a safleoedd coetir lled-naturiol yr iseldir ac felly mae’n ddigon posibl bod poblogaethau o’r llygoden fronfelen yn rhannau coediog y Fwrdeistref Sirol. Rydym yr un mor ansicr ynghylch poblogaethau o’r llygod bach. Unwaith eto, mae rhagdybiaeth bod llygod bach yn bresennol yn RhCT (mae ymhell o fod yn rhywogaeth drefol yn unig) ond nid oes gennym gofnodion diweddar. Fodd bynnag, mae gennym fwy o wybodaeth am lygoden yr ŷd. Er ein bod yn gyfarwydd â gweld lluniau pert ar fatiau bwrdd o ‘gyplau’ o lygod yr ŷd yn byw mewn caeau gwenith, y gwir yw ei bod yn well ganddynt safleoedd gwlyptir ac, yn RhCT, fe’u ceir mewn glaswelltiroedd corsiog nad ydynt yn cael eu rheoli. Yn wir, mae’r Arolwg o Famaliaid Prydain yn dyfynnu barn Perrow a Jowitt mai llygod yr ŷd yw’r mamaliaid bach mwyaf niferus yn aml mewn gwlyptiroedd. Mae twffiau o laswellt y gweunydd yn bwysig iddynt ac yn darparu deunydd ar gyfer plethwaith cain eu nythod siâp pêl. Un ffordd effeithiol i ganfod tystiolaeth o lygod yr ŷd yw chwilio am hen nythod yn y gaeaf pan fyddant yn haws eu gweld. Hyd yn hyn, mae hen nythod llygod yr ŷd wedi’u canfod mewn nifer o wahanol gaeau yn SoDdGA Rhos Tonyrefail, SoDdGA Comin Llantrisant ac yn Llanilltud Faerdref (wrth chwilio am weoedd larfâu britheg y gors): mae bron yn sicr bod llygod yr ŷd yn defnyddio cynefinoedd tebyg mewn mannau eraill.
Mae’r llygoden bengron goch a llygoden bengron y gwair ill dwy’n rhywogaethau cyffredin. Credir bod cysylltiad cryfach rhwng y llygoden bengron goch a choetiroedd a pherthi a’i bod yn well gan lygoden bengron y gwair y glaswelltiroedd twmpathog. Fel arfer, bydd safleoedd glaswelltir garw, boed sych neu wlyb, yn llawn olion y llygod pengrwn, tystiolaeth o fwydo gan lygod pengrwn (pentyrrau o goesau glaswellt wedi’u torri’n dwt) a baw llygod pengrwn. Gellir cymryd bod poblogaethau mawr iawn o lygod pengrwn y gwair yn RhCT. Er nad yw’n rhywogaeth frodorol, ni ellir peidio â sôn am y llygoden ffyrnig; mae’n niferus ac wedi addasu’n dda i fywyd modern ac yn cael ei hystyried yn un o’r fermin gwaethaf.
Ceir tair rhywogaeth o’r llyg yn RhCT. Mae’r llyg cyffredin yn niferus ac yn cael ei glywed yn amlach nag y mae’n cael ei weld yn fyw (gwelir llygon cyffredin marw yn aml – mae eu bywyd yn brysur ond yn fyr). Os yw’r sefyllfa o ran llygon yn RhCT yn cyfateb i’r darlun cenedlaethol, bydd y llyg lleiaf nid yn unig yn gyffredin ond yn fwy niferus na’i gefnder mwy ym mawnogydd a gweunydd yr ucheldir. Mae llyg y dŵr yn trigo mewn dŵr hanner yr amser ac fe’i ceir mewn gwlyptiroedd lle mae nentydd a phyllau dŵr. Cafwyd llygon y dŵr ar nifer o safleoedd gwlyptir yn RhCT (a’u gweld yn defnyddio llochesi ymlusgiaid weithiau) ac mae’r rhain, ynghyd â llygod yr ŷd, yn rhan bwysig o’r ffawna mamaliaid bach mewn cynefinoedd o’r fath.
Er eu bod yn rhywogaeth goetir yn wreiddiol, mae’n ymddangos bod gwahaddod yn ymsefydlu ac ymledu’n llwyddiannus yn RhCT, yn enwedig yn ardaloedd yr iseldir. Mae’r Arolwg o Famaliaid Prydain yn nodi bod trwch y pridd yn bwysig i wahaddod (mae angen digon o drwch i dorri twneli), felly a allwn gymryd bod llai o wahaddod ym priddoedd teneuach ochrau’r cymoedd?
Y ddau garlymoliad mwyaf cyffredin yw’r fronwen a’r carlwm. Cymerir eu bod yn rhywogaethau cyffredin ac eang eu dosbarthiad, ond ychydig iawn o adroddiadau neu gofnodion a gafwyd am y naill rywogaeth neu’r llall.
O blith y rhywogaethau ‘prinnach’, mae ffwlbartod yn cael eu lladd yn eithaf aml ar ein ffyrdd: yn wir, mae’n debyg mai’r ffwlbart yw’r rhywogaeth famalaidd y cafwyd y mwyaf o adroddiadau amdani. Anfonwyd lluniau nifer o’r rhain i Ymddiriedolaeth Natur Vincent er mwyn eu gwirio a chadarnhawyd mai ffwlbartod pur yw’r rhain, yn hytrach na rhyw fath o ffuret neu groesfrid rhwng ffwlbart a ffuret. Weithiau, ceir adroddiadau am ffwlbartod byw ar fuarthau fferm neu mewn rhandiroedd ac mae eu cywion wedi’u dal (a’u rhyddhau) mewn trapiau llygod ‘dal yn fyw’. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu’n gryf fod ffwlbartod wedi hen ymsefydlu yn RhCT ac y gallant fod yn gyffredin.
Ar ddechrau’r 2000au, trefnwyd arolwg o’r bele yng Nghymru gan Ymddiriedolaeth Natur Vincent. Cyflawnwyd hyn yn bennaf drwy goladu cofnodion a gyflwynwyd yn sgil ymgyrch gyhoeddus a hysbysebwyd drwy bosteri. Roedd canfyddiadau interim yr arolwg yn cynnwys dau gofnod (hyder uchel) o’r rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd yn RhCT, ychydig i’r gogledd o Hirwaun. Yn ddigon diddorol, ar ddechrau’r 2000au cawsom nifer o adroddiadau am y bele a oedd yn gredadwy ond heb eu cadarnhau, ond dim byd wedyn. Yn sgil ailgyflwyno’r bele yng nghanolbarth Cymru, a’r ffaith bod cysylltedd drwy gynefinoedd addas sy’n cyrraedd RhCT, mae’n bosibl y ceir adroddiadau am y bele yn RhCT.
Mae’r mochyn daear yn rhywogaeth swil yn RhCT. Maent yn bresennol yma ac mae’n bosibl bod eu dosbarthiad yn eang, ond mae diffyg adroddiadau am eu lladd ar ffyrdd ac adroddiadau eraill yn awgrymu eu bod yn anghyffredin. Mae’n bosibl bod erlid ac aflonyddu yn ffactorau sy’n cyfrannu at natur anfynych y rhywogaeth hon, ond efallai fod priddoedd tenau’r cymoedd mewn llawer rhan o RhCT yn eu rhwystro rhag torri brochfeydd, ac nad yw RhCT yn gynefin gyda’r gorau i foch daear yn gyffredinol.
Lle i’w gweld yn RhCT
Bydd gwahanol gynefinoedd a lleoliadau daearyddol yn cynnal gwahanol rywogaethau o famaliaid.