Er bod gloÿnnod byw yn ddigon adnabyddus i ni, mae ein ffawna gwyfynod yn llai cyfarwydd. Un o’r rhesymau am hyn yw bod y rhan fwyaf o’r rhywogaethau yn weithgar yn ystod y nos a rheswm arall yw bod nifer mwy o lawer o rywogaethau gwyfynod nag o rywogaethau gloÿnnod. Yn y degawdau diwethaf, drwy waith Clwb Gwyfynod Morgannwg, mae criw o naturiaethwyr lleol ymroddedig gyda’u trapiau gwyfynod wedi cynyddu ein dealltwriaeth o ffawna gwyfynod Morgannwg a RhCT.
Mae ein ffawna gwyfynod wedi’i rannu’n wyfynod bach a gwyfynod mawr. Yn ôl Atlas Gwyfynod Morgannwg, o’r 96 o rywogaethau sy’n brin, yn anfynych neu’n anghyffredin ar lefel genedlaethol, mae 51 i’w cael ym Morgannwg ac mae 45 yn rhagor o rywogaethau sydd ar restr Adran 7 Cymru (rhestr Adran 42 cynt) sydd heb eu dynodi’n rhai prin neu anfynych ym Morgannwg (o’r rhain, mae 11 yn anfynych yn RhCT). O’r rhain, ceir 62 o rywogaethau yn RhCT. Gwneir ymdrech isod i rannu’r rhywogaethau hynny yn ôl mathau o gynefin. Rydym yn derbyn bod y broses hon yn fwy anodd wrth drafod gwyfynod, o gymharu â gloÿnnod, am ein bod yn gwybod llai am eu hanghenion penodol o ran cynefin.
Rhywogaethau’r coetir
Ceir tua 15 o rywogaethau coetir: y gwyfyn drewllyd, y ffug-bicwnen dorchog, y tant sidan, ôl-adain oren, moca gwridog, cathan y gwernos, blaen brown, dart deunod, y crynwr llwyd, castan smotyn brown, melyn y llwyf, carpiog tywyll, carpiog Medi a’r rhisglyn brith. Gan gymryd un o’r rhain, mae’r gwyfyn drewllyd yn rhywogaeth B anfynych ar lefel genedlaethol. Mae’n wyfyn mawr brown ariannaidd sy’n byw mewn coetir gwlyb ac ar safleoedd corsiog. Bydd ei larfâu yn treulio hyd at bedair blynedd yn araf fwyta drwy ruddin meddal coed helyg a gwern, gan ollwng aroglau tebyg i afr. Mae clwstwr o gofnodion ohonynt mewn coetiroedd gwlyb yng Nghwm Cynon a hen gofnod o ardal Llanilltud Faerdref ac mae’n bosibl bod y rhywogaeth hon yn llawer mwy eang ei dosbarthiad, yn defnyddio coetiroedd gwlyb ac ymylon corsiog coediog ar nifer o safleoedd gwlyptir.
Porfa Rhos /Glaswelltir corsiog/Gweundir
Mae’n ymddangos bod 15 o rywogaethau sy’n cael eu cysylltu’n benodol â chynefinoedd glaswelltir corsiog a gweundir: y brychan rhudd, y gwalch-wyfyn gwenynaidd ymyl gul, teigr ôl-adain goch, dart praff, y wensgod fawr, yr adain Gymreig, y clustwyfyn cilgantog, y brychan lletraws, y gwargwlwm bach, clai’r rhos, yr ôl-adain felen hardd, pali tywyll, y brithyn prudd, gem fforch arian brin, clai’r waun a’r llwyd gloyw.
O’r rhain, mae’r wensgod fawr yn enghraifft wych o’r hyn sy’n gallu digwydd pan geir mwy o gofnodi. Ar adeg yr hen Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth, neilltuwyd cynllun gweithredu penodol ar ei gyfer am fod ei ddosbarthiad yn dirywio’n gyflym ledled deau Prydain. Fodd bynnag, yn y blynyddoedd wedyn roedd cofnodwyr gwyfynod ym Morgannwg wedi dangos bod glaswelltiroedd gwlyb Morgannwg (a RhCT) yn gadarnle i’r rhywogaeth yn y DU. O ganlyniad i hyn, nid yw bellach ar restr y rhywogaethau sydd mewn perygl: enghraifft glasurol o’r ffordd y mae gwaith gwirfoddolwyr yn gallu cyfrannu i’r strategaeth gadwraeth genedlaethol.
Rhywogaeth arall mewn glaswelltir corsiog sy’n werth ei nodi yw’r gwalch-wyfyn gwenynaidd ymyl gul sydd â’i larfâu yn bwydo ar y planhigyn tamaid y cythraul ac sy’n rhannu cynefinoedd porfa rhos â’r glöyn britheg y gors. Fodd bynnag, mae’n brinnach hyd yn oed na britheg y gors er bod y gwyfyn hwn wedi’i weld yn amlach o lawer yn y blynyddoedd diwethaf yn ardal Hirwaun, ac mae potensial mawr iddo ar laswelltiroedd corsiog eang SoDdGA Rhos Tonyrefail ac ardal Llantrisant/Llanilltud Faerdref.
Glaswelltir asidig/Ffridd/Coetir agored
Ceir ffawna gwyfynod neilltuol yng nglaswelltiroedd asidig agored a brithweithiau ffridd a choetir agored RhCT, ac mae chwe rhywogaeth a all fod yn gysylltiedig â’r cynefinoedd hyn: y coediwr, yr adain ddu, y crych Cymreig, y teigr bach, y clai cochddu a chwcwll y brigwlydd. Mae’r coediwr yn wyfyn emrallt-wyrdd sy’n hedfan yn y dydd a’i larfâu’n bwyta planhigion y suran. Ar ôl cyfnod hir pan nad oedd cofnodion ar gyfer RhCT, darganfuwyd y gwyfyn hwn ar laswelltir asidig heb ei wella ym Mharc Blaenrhondda, Blaenrhondda yn 2018, ac mewn ail safle ym mhen eithaf arall y Fwrdeistref Sirol yng nghanol sborion glo uwchben Nantgarw. Mae safle Parc Blaenrhondda yn cael ei reoli bellach i atal llwyni mwyar duon rhag tyfu dros y glaswelltir asidig ac mae hwn yn un o safleoedd treialu’r cynllun Tirweddau Byw.
Yr ail wyfyn sy’n werth ei nodi’n arbennig yw’r adain ddu. Gwyfyn lliw huddygl sy’n hedfan yn y dydd yw hwn ac mae’n fwy deniadol nag y mae ei enw’n awgrymu. Mae ei larfâu’n bwydo ar gnau’r ddaear sydd yn flodeuyn cyffredin mewn glaswelltiroedd asidig. Mae RhCT yn gadarnle i’r gwyfyn hwn ym Morgannwg. Ceir poblogaethau sylweddol o’r gwyfyn hwn ym mlaenau Cwm Cynon ac yn Nhonyrefail. Mae’r coediwr a’r adain ddu yn wyfynod hawdd eu hadnabod sy’n hedfan yn y dydd, ac mae’n debygol y bydd y ddau i’w cael mewn mannau eraill, os gallwn annog mwy o bobl i chwilio amdanynt.
Glaswelltir niwtral sych yr iseldir/calchfaen/tir llwyd
Mae saith rhywogaeth yn cael eu cysylltu’n gyffredinol â chynefinoedd prysgwydd a glaswelltir sych cyfoethog ei rywogaethau: y gliradain chwe rhesen, y gwladwr cleisiog, yr ôl-adain felen fach, gwregys y gwair, y rhwyll bluog a phwtyn Haworth. Mae’r gliradain chwe rhesen, sy’n dynwared y wenynen feirch, yn rhywogaeth anfynych B ar lefel genedlaethol. Rydym yn gwybod ei fod wedi ymsefydlu yn RhCT am fod gwyfynwyr yr ardal wedi’i ddenu drwy ddefnyddio fferomonau penodol. Fe’i ceir yn aml ar safleoedd ôl-ddiwydiannol lle mae ei larfâu’n bwydo ar blanhigion pysen y ceirw flewog sy’n tyfu dros loriau a sylfeini concrid.
Coedwigoedd a mawnogydd yr ucheldir
Mae un ar ddeg o rywogaethau’r ucheldir yn cael eu cysylltu â chynefinoedd yr ucheldir, yn cynnwys mannau gweddilliol mewn coedwigoedd (mae dwy o’r rhywogaethau o bwtynnod a restrwyd yn rhywogaethau conwydd): y brychan du a gwyn, y pwtyn sbriws, y pwtyn gwelw, y pwtyn bach, y don lwyd, brychan llwyd y mynydd, dart y creigiau, y pali dwy aren, bidog ffa’r gors, yr em serenaur a’r trwynog bychan. Mae’r brychan du a gwyn yn wyfyn brithliw du a gwyn hardd a’i larfâu’n bwydo ar y friwydd wen; mae brychan llwyd y mynydd yn un o wyfynod yr ucheldir o ganolbarth a gogledd Cymru sydd i’w gael ar rostir grug/llus yn ucheldiroedd RhCT; ac mae’r trwynog bychan yn un o rywogaethau’r mawnogydd a geir mewn mawndiroedd uchel yn RhCT.
Gwelyau cyrs/gwerni
O’r ddau wyfyn a geir mewn gwelyau cyrs/gwerni, mae gwensgod y cyrs yn rhywogaeth â marciau cain a gysylltir â gwelyau cyrs, a’r unig safle mewndirol lle cofnodwyd ef ym Morgannwg yw gwely cyrs yng nglofa Cwm, Beddau. Mae’r brithyn dwy labed wedi’i gofnodi ar nifer o safleoedd gwerni ar waelod Cwm Cynon.
Gerddi/cyffredinol
Mae chwe rhywogaeth sydd heb gysylltiad â chynefin penodol: y gliradain cwrens, y brychan cwrens, y wensgod dramor, cwcwll y camri, gem euraidd a theigr yr ardd. Ceir y gliradain cwrens ar safleoedd hen erddi/rhandiroedd gyda hen lwyni cwrens du a choch. Roedd teigr yr ardd yn rhywogaeth gyffredin ar un adeg, a lindys y sianis blewog yn olygfa gyfarwydd yn yr ardd. Fodd bynnag, mae’r newid yn yr hinsawdd a’r gaeafau cynhesach wedi cael effaith anffafriol ar y gwyfyn hwn sydd bellach yn dra anghyffredin yn RhCT.
Os hoffech chi ddysgu rhagor am wyfynod, ymunwch â Grŵp Gwyfynod Morgannwg, cydiwch yn un o’r llyfrau newydd rhagorol sydd ar gael ar gyfer adnabod gwyfynod, ac ystyriwch brynu trap gwyfynod.
Lle i’w gweld yn RhCT
Mae gwahanol gynefinoedd a lleoliadau daearyddol yn cynnal gwahanol grwpiau o rywogaethau.