top of page

Hydref yw’r tymor i’r corynnod crwn. Wrth gerdded porfeydd rhos RhCT, ni ellir peidio â thorri gweoedd y corryn pedwar smotyn Araneus quadratus, y corryn trymaf ym Mhrydain sydd yn dew ac o liw melyn golau. Ni ellir camgymryd y corryn crwn prydferth hwn sy’n trigo ar ein gweunydd a’n glaswelltiroedd corsiog. Os ewch am dro yn yr hydref mewn glaswelltir corsiog, byddwch bron yn sicr o roi pas adref i un neu ddau o’r corynnod hyn. Ychydig oriau wedyn, wrth fwynhau cwpanaid o de a bisgeden siocled, gallai corryn pedwar smotyn ddod i’r golwg, yn dringo’n llafurus i fyny blaen eich crys, neu’n clwydo fel parot ar eich ysgwydd, gan beri rhywfaint o sioc. Mae corryn crwn cyffredin yr ardd yn rhywogaeth gyfarwydd ond trawiadol. Mae gwaith ymchwil diweddar yng nghanol Ewrop wedi dangos bod y dirywiad yn niferoedd corynnod crwn yr ardd yn ganlyniad i ostyngiad yn nifer y pryfed adeiniog. Felly, os bydd eich gardd yn llawn gweoedd y corynnod crwn yn yr hydref, byddwch yn ddiolchgar. Y drydedd rywogaeth o gorryn crwn y gellir ei gweld yw’r corryn crwn mesfusaidd Araneus alsine, sydd yn debyg o ran siâp ei gorff a’i liw i fefusen. Cafwyd un cofnod o’r corryn hardd hwn yng Nghwm Cynon.

Lle i’w gweld yn RhCT

Gerddi a glaswelltiroedd yn yr hydref

bottom of page