top of page

Ble welsoch chi degeirian ddiwethaf? Mewn tŷ gwydr, ar raglen arddio ar y teledu neu fel blodeuyn egsotig mewn bocs yn y siop flodau leol? Beth am ei weld ar domen sborion glo neu mewn cors neu ar y llain las y tu allan i’ch tŷ? Efallai y byddwch yn synnu o glywed bod o leiaf un ar ddeg o rywogaethau’r tegeirian yn Rhondda Cynon Taf. Mae rhai ohonynt yn gyffredin ac eang eu dosbarthiad ac eraill yn brin ac mewn perygl o ddiflannu – mae pob un ohonynt yn arwydd bod y cynefin o ansawdd rhagorol a phob un, yn ei ffordd, yn flodeuyn egsotig gyda strwythurau blodau hardd a chymhleth.

Bydd tegeiriau yn blodeuo ar ddiwedd y gwanwyn ac yn yr haf. Mae’r rhan fwyaf o’r tegeiriau sydd gennym, fel tegeirian y gors deheuol a’r tegeirian brych, yn amlwg oherwydd eu hysbigau o flodau pinc neu borffor. Mewn cyferbyniad â hyn, mae’r caineirian – yn ei guddfannau cysgodol mewn coedwigoedd – yn dangos ysbigau o flodau gwyrdd cynnil a thegeirian y wenynen yn dynwared gwenyn blewog gyda’i flodau rhyfeddol o binc, du sidanaidd, melyn a glas.

Ar y safleoedd mwyaf addas, gellir cael niferoedd mawr o degeiriau a’u hysbigau blodeuog yn ffurfio’r lluwchfeydd rhyfeddaf. Ar ôl blodeuo, mae tegeiriau’n cynhyrchu hadau powdrog dirifedi sy’n gallu cael eu chwythu dros bellteroedd mawr.

Os yw tegeiriau yn tyfu mewn cynefin, mae’n arwydd ei fod o ansawdd da. Un o rywogaethau’r priddoedd asidig yw tegeirian brych y rhos, felly mae’n ffynnu mewn gweunydd, corsydd a chynefinoedd sborion glo. Mae tegeirian y waun yn blanhigyn prinnach o lawer ac yn ddangosydd ar gyfer gweirgloddiau blodeuog. Yr unig le y mae i’w gael yn RhCT yw mynwent Cefn-y-parc yn Llantrisant. Mae’r tegeirian brych i’w weld ar leiniau glas blodeuog, ac mae tegeiriau’r gors deheuol yn ffurfio clystyrau mewn tir llaith ar ben sborion glo. Yn ddiweddar, mae tegeirian y wenynen wedi dod yn llawer mwy cyffredin yn RhCT ac mae’n werth chwilio amdano ar lethrau glas ym mron pob man yn y Fwrdeistref Sirol. Un datblygiad cyffrous yw ei bod yn ymddangos hefyd fod y tegeirian bera yn cytrefu ar leiniau glas yn RhCT ac y gallai’r blodau hardd hyn fod yn olygfa fwy cyffredin o lawer yn y blynyddoedd nesaf.

Lle i’w gweld yn RhCT

Glaswelltiroedd a choetiroedd ledled RhCT

bottom of page