top of page

Y dyfrgi yw un o’r mamaliaid ym Mhrydain sydd wedi ailgodi’n ddiweddar. Pan gyhoeddwyd y Cynllun Dyfrgwn ar gyfer y cynllun Gweithredu dros Natur gwreiddiol yn 2000, roedd y rhywogaeth hon wedi dechrau ailgytrefu’r Fwrdeistref Sirol. Erbyn heddiw, mae’r dyfrgi wedi ailgytrefu’r holl ddalgylchoedd afonydd yn RhCT. Mae nifer yr adroddiadau am weld carthion ac olion traed dyfrgwn, yn ogystal â gweld dyfrgwn yn fyw, wedi cynyddu’n sylweddol. Yn ddiddorol ddigon, mae nifer yr adroddiadau i’r Cyngor am ladd dyfrgwn ar ffyrdd (a oedd yn digwydd yn ddigalon o aml am sawl blwyddyn ar adeg yr ailgytrefu) wedi gostwng yn aruthrol yn yr 20 mlynedd diwethaf. Gan fod tystiolaeth o bresenoldeb dyfrgwn i’w chael yn aml o hyd yn ein systemau afonydd, y posibilrwydd yw bod poblogaethau’r dyfrgwn wedi dod i ddeall peryglon y ffyrdd a/neu fod mwy o ofal yn cael ei gymryd i ddarparu llwybrau amgen o dan ffyrdd pan fyddant yn cael eu hadeiladu neu eu gwella.

Lle i’w gweld yn RhCT

It's a lot easier to spot the signs of otters than looking for the animals themselves. Keep an eye out along riverbanks and waterways for signs such as for five-toed footprints (about 6-7cm long) and droppings or 'spraints'.

bottom of page