Ysgrifennwyd y canlynol gan Mark Evans ar gyfer Cylchlythyr y Cofnodwyr 40 (2020). Mae’n grynodeb o’i brofiad wrth fonitro clwydfan cigfrain yn fisol ar ben y mynydd coediog sydd rhwng Cymoedd Cynon a Thaf. Yn 2019 y nifer mwyaf o adar a gofnodwyd oedd 295 ym mis Awst (pan oedd y nifer misol cyfartalog yn 2019 yn 147 o adar) a’r nifer misol mwyaf erioed a gofnodwyd oedd 577 o adar ym mis Gorffennaf 2016. Felly mae hwn yn hanes clwydfan anferth o gigfrain mewn coedwig ar ben mynydd ar ôl gorfod cerdded yn hir a llafurus i fyny at y safle yn yr oriau mân ar bob tywydd.
‘Mae’r cyfrif o gigfrain a wnes i ar ddechrau Rhagfyr 2019 yn garreg filltir bwysig i mi, gan mai hwn oedd y 250fed tro i mi gyfri’r cigfrain ar fy mhen fy hun ers i mi ddarganfod y clwydfan yn 2000. Ar ôl cael fy nghau allan ohono am y rhan fwyaf 2001, dechreuais ei fonitro o ddifrif yn 2002. I nodi’r achlysur, dyma rai o’m hatgofion am y cyfrifon, ond nid am y cigfrain eu hunain mewn gwirionedd.
Dywedais mai cyfrifon a wnes i ar fy mhen fy hun oedd y rhain, ond ar bedwar achlysur cefais i gwmni fy ffrind, a gwyliwr brwd yr adar nythu a’r adar ymfudol ym mhwll Rhaslas, Mike Hogan. Gyda help Mike roeddwn wedi cael cadarnhad i’m syniad bod nifer sylweddol (hyd at 20%) o boblogaeth y clwydfan yn gadael y clwydfan am y dwyrain o bryd i’w gilydd, heb eu gweld na’u cyfrif gen i. Ar un achlysur, pan oeddwn oddi cartref, roedd Mike hefyd wedi cwblhau cyfrif ar ei ben ei hun ar fy rhan ac er bod y cyfrif hwn a’r rheini a wnaed ar y cyd ag ef wedi’u cynnwys yn y set gynyddol o ddata am y clwydfan, y cyfrifon hynny a wnes i ar fy mhen fy hun sy’n cael eu nodi yma. Diolch i chi, Mike, am eich help amhrisiadwy a’ch cwmpeini da wrth wneud y cyfrifon hynny gyda’n gilydd. Byddaf yn fythol ddiolchgar: mae’n drueni mawr na wnaethoch chi erioed weld y cyffylogod roeddech chi wedi gobeithio eu gweld.
Fel sy’n wir am nifer mawr o brosiectau neu weithgareddau o’r fath, doedd dim bwriad i’w wneud ar y dechrau. Pan sylwais i gyntaf ar grŵp mawr o gigfrain yn codi’n sydyn o blanhigfa un bore, gwnaeth hynny ennyn fy chwilfrydedd yn syth, felly dychwelais yn yr hwyr i weld a oedd clwydfan yno. Gwyliais yr adar yn dod yn ôl, ond roedd eu campau hedfan a’r mynd a dod cyffredinol, er yn ddifyr, yn ei gwneud yn amhosibl eu cyfrif, felly ychydig o ddiwrnodau wedyn, es i yno am y tro cyntaf gyda’r wawr a darganfod bod nifer sylweddol iawn yn defnyddio’r clwydfan. Penderfynais eu cyfrif bob pythefnos am flwyddyn, i weld a oedd patrwm ym mhoblogaeth y clwydfan. Roedd yr achosion o glwy’r traed a’r genau wedi arwain at gau’r goedwig am fwy na hanner y flwyddyn, felly roeddwn wedi gorfod gohirio dechrau’r flwyddyn monitro. Yn 2002, gwnes i eu cyfrif bob pythefnos fel a fwriadwyd a phan ddaeth y flwyddyn i ben, roeddwn i’n meddwl tybed a fyddai yna wahaniaeth sylweddol yn y boblogaeth yn 2003, felly es i ymlaen â’r cyfrif bob pythefnos drwy gydol 2003 a 2004. Roeddwn i’n methu â rhoi’r gorau iddi erbyn hynny; nid yn unig am fy mod i am weld beth fyddai’n digwydd nesaf i’r boblogaeth o gigfrain ond oherwydd y profiad eithaf swrrealaidd a hollol gyfareddol o fod allan yn y tywyllwch cyn iddi wawrio ac o weld y wawr yn torri.
Dros y blynyddoedd, rydw i wedi gorfod symud y man cyfrif mewn ymateb i’r newid yn natur y clwydfan; newidiadau sydd wedi effeithio ar y llwybrau hedfan o’r clwydfan. Am fod y golau’n eithaf gwan yn aml pan fyddan nhw’n dechrau hedfan oddi yno, rhaid i mi gael man cyfrif lle rydw i’n gallu eu gweld nhw i gyd yn erbyn y wybren oherwydd, yn y llwydolau cyn y wawr, does dim modd eu gweld yn erbyn y tir.
Hyd yn eithaf diweddar, mae’r mannau cyfrif wedi bod yn agos i’r clwydfan, ac roedd hynny’n gwneud i mi deimlo bod gen i gysylltiad go iawn â’r adar. Roedd yn brofiad cyfareddol; eistedd yn y tywyllwch, yn gwylio golau cyntaf y dydd yn yr awyr ac wedyn clywed y galwadau cyntaf gan y pâr hynaf yn y clwydfan. Mae llais gwahanol gan bob cigfran ac yn aml gallwch eu hadnabod, felly roedd hi’n amlwg mai’r un pâr oedd yn gwneud bob tro, a’r rhain yn dechrau galw a gweddill y clwydfan yn ymuno â nhw wedyn mewn cytgan ar ôl munud neu ddau. Byddai hyn yn para deg munud fel arfer ac, ar y diwedd, byddai’r grwpiau cyntaf yn hedfan o’r clwydfan. Byddai’r pâr hynaf yn dal i alw drwy gydol yr amser a gymerai i’r clwydfan gael ei adael yn wag (un awr fel arfer) a nhw wedyn fyddai’r rhai olaf i’w adael. Weithiau bydden nhw’n aros yn y clwydfan, heb fwriad i’w adael.
Pa mor hir y byddaf yn gallu parhau i gyfri’r cigfrain? Wel, mae pethau’n newid a gallaf rag-weld diwedd y clwydfan. Bydd y rheswm posibl cyntaf dros roi’r gorau i gyfrif yn codi cyn hir, pan fydd Coedwigaeth CNC yn torri coed y blanhigfa lle mae’r clwydfan ar hyn o bryd. Fydd hynny ddim yn ddiwedd ar y clwydfan, gan ei bod bron yn sicr y bydd yn symud i blanhigfa arall gerllaw. Amser a ddengys a fyddaf yn gallu eu cyfrif yn gadael safle’r clwydfan newydd. Y rheswm arall a’r un a allai beri i’r clwydfan ddirywio yn y pen draw (ac mae eisoes yn dirywio) a darfod yn y diwedd yw bod y clwydfan wedi’i leoli lle y mae am fod y domen sbwriel gerllaw ac erbyn hyn does bron dim gwastraff bwyd yn cyrraedd y domen honno. Am fod RhCT yn hyrwyddo mwy o ailgylchu gwastraff bwyd ac am nad yw gwastraff domestig yn cael ei gludo i’r domen bellach, bydd poblogaeth graidd y clwydfan, nad yw’n bridio, yn ei gael yn llai atyniadol o lawer a gallai’r clwydfan fynd ar ddisberod yn y diwedd. Beth bynnag fydd yn digwydd, dydw i ddim yn mynd yn ddim ieuengach, felly mae’n annhebygol iawn y byddaf yn cyrraedd y 500fed cyfrif.’
Lle i’w gweld yn RhCT
Y goedwig rhwng Cymoedd Cynon a Rhondda