top of page

Mae’r brithweithiau cymhleth o laswelltir gwlyb a sych, sgri a thomenni sborion glo, gweundir a ffridd sydd mor nodweddiadol o gymaint o dirwedd RhCT yn cynnig cynefinoedd gwych i ymlusgiaid.

Er nad yw gwaith archwilio neu asesu systematig wedi’i gyflawni, mae’r data a gasglwyd o arolygon ecolegol ar gyfer ceisiadau cynllunio ac o arsylwi achlysurol wedi cadarnhau bod dosbarthiad eang i’r pedair rhywogaeth o ymlusgiaid a geir yn RhCT. Mae’r neidr ddefaid yn niferus, yn enwedig mewn gordyfiant ar gyrion trefi ac mewn gerddi. Ceir poblogaethau mawr iawn o’r neidr ddefaid yn RhCT. Mae’r fadfall hefyd yn gyffredin ac eang ei dosbarthiad. Yn yr ucheldir, gellir ei gweld yn aml ar waliau cerrig ac yn sgrialu drwy dwffiau o laswellt y gweunydd mewn lleoliadau agored iawn. Mae nadredd y gwair i’w cael mewn llawer man hefyd, yn aml mewn cysylltiad â safleoedd gwlyptir ac mae gwiberod hefyd wedi hen ymsefydlu ar ffriddoedd, gweundir ar ochr y cymoedd a hefyd mewn gwlyptiroedd. Er bod niferoedd yr ymlusgiaid wedi gostwng yn ddifrifol mewn llawer rhan o’r DU, maent yn gyffredin yn RhCT. Mae’r ymlusgiaid, ynghyd â’r ffawna amffibiaid, yn dangos pa mor bwysig yw cyfoeth ac amrywiaeth y cynefinoedd lled-naturiol yn RhCT.

Lle i’w gweld yn RhCT

Brithweithiau o gynefinoedd, cyrion trefi yn wynebu’r de.

bottom of page