Yn yr oriel bioamrywiaeth newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gallwch weld astudiaeth ddifyr iawn o lyffantod y gwair (y pryfed sy’n cynhyrchu ‘poeri’r gog’) yng Nghwm Cynon. Mae Mike Wilson o’r Amgueddfa Genedlaethol yn egluro mwy am lyffantod y gwair tywyll Cwm Cynon…
Mae melanedd diwydiannol yn “felanedd addasol sy’n cael ei achosi gan newid anthropogenig yn yr amgylchedd naturiol drwy lygredd diwydiannol”. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwybod am y melanedd diwydiannol a welir mewn rhai gloÿnnod byw a gwyfynod llawn dwf – y gwyfyn brith yw’r enghraifft fwyaf adnabyddus o bosibl. Fodd bynnag, mae nifer da o bryfed eraill lle dangoswyd hyn ac yn eu mysg mae llyffant y gwair, Philaenus spumarius. Pryfed niferus yw’r rhain a geir mewn nifer mawr o gynefinoedd yn y DU ac ar gyfandir Ewrop. Mae’n bryf sy’n bwydo ar y sudd pren o amrywiaeth fawr o blanhigion llysieuol. Ceir un genhedlaeth bob blwyddyn, yn treulio’r gaeaf ar ffurf wyau a’r camau nymffol yn digwydd yn y poer ar y planhigyn lletyol. Gwelir y pryf llawn dwf mewn amrywiaeth fawr o ffurfiau lliw, sy’n dibynnu ar faint y pigmentiad tywyll. Cafwyd ymchwil helaeth i gyfrannau’r gwahanol ffurfiau mewn gwahanol leoliadau yn y DU (e.e. Lees et al. 1983 Biological Journal of the Linnean Society 19: 99-114) ac yn enwedig mewn ardaloedd yng ngwledydd Llychlyn.
Mae nifer o ffurfiau tywyll y ceir canrannau cymharol fach ohonynt mewn rhannau helaeth o’r DU. Tua 30 mlynedd yn ôl, cafwyd bod y ffurfiau tywyll yn drechaf yng nghyffiniau’r ffatri ‘Phurnacite’ yng Nghwm Cynon. Cyhoeddwyd canlyniadau’r rhaglen samplu gan Lees a Dent (1983 Biological Journal of the Linnean Society 19: 115-129). Roedd y ffatri yn ffynhonnell sylweddol i lygredd aer gronynnol yn yr ardal ac roedd Lees a Dent wedi cael bod perthynas gryf rhwng y ffurfiau melanig a welwyd gyda’i gilydd yng nghyffiniau’r ffatri. Roedd mwy na 98% o’r pryfed cyfagos i’r ffatri yn rhai melanig ac roedd eu canran yn gostwng i’r cyfrannau arferol ar gyfer De Cymru rhwng 1.5 a 6 km i ffwrdd, yn ôl y cyfeiriad. Roedd amlder y ffurfiau melanig yn uwch o lawer na dim a gafwyd yng nghynefinoedd eraill y rhywogaeth yn Ewrop, Asia a Gogledd America. Awgrymwyd bod y berthynas yn ganlyniad i effeithiau detholus y llygredd aer lleol o’r ffatri. Nid oedd yn glir ai ysglyfaethu detholus, yr effeithiau uniongyrchol o lygredd neu thermoreoli yw’r ffactorau sy’n gysylltiedig â chyffredinolrwydd y ffurfiau melanig.
Roedd y newid hwn mewn amlder melanig (a gofnodwyd ym 1983) wedi digwydd yn ystod llai na 40 o genedlaethau ers i’r ffatri ddechrau gweithredu ym 1942 (a chael ei heangu rhwng 1951 a 1968). Symudwyd y ffatri tua 20 mlynedd yn ôl. Beth fyddai cyfran y ffurfiau melanig ar y safleoedd gwreiddiol tua 20 mlynedd yn ddiweddarach? Cafwyd bod perthynas debyg hefyd yn ardal Dociau Caerdydd. Diolch i Fwrsari Gwyddoniaeth Nuffield a ddyfarnwyd i Jenny O’Neill, myfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym wedi treulio’r haf diwethaf yn samplu ar gynifer â phosibl o’r safleoedd gwreiddiol yng Nghwm Cynon ac yn Nociau Caerdydd. Mae’r canlyniadau rhagarweiniol, sy’n seiliedig ar asesiad o fwy nag 8,000 o sbesimenau o tua 50 o safleoedd, yn dangos bod canrannau’r ffurfiau melanig wedi gostwng o ganran uchaf o 98% i tua 50%. Mae’r canlyniadau llawn yn cael eu dadansoddi.
Felly mae’n ymddangos bod y manteision o fod yn llyffant y gwair tywyll wedi lleihau wrth i ansawdd yr aer wella. Mae’n astudiaeth ddiddorol iawn. Os cewch gyfle, ewch i weld yr arddangosfa yn yr Amgueddfa Genedlaethol sy’n dangos enghreifftiau o’r pryfed ‘golau’ normal a’r pryfed ‘tywyllach’ o Abercwmboi.
Lle i’w gweld yn RhCT
Ledled RhCT