Mae’r wennol ddu yn aderyn rhyfeddol. Hi sy’n hedfan gyflymaf (wrth hedfan yn wastad – mae’r hebog tramor yn gyflymach wrth ddisgyn ar ei brae) ac mae’n treulio tair neu bedair blynedd cyntaf ei bywyd yn yr awyr, heb fyth lanio ar dir. Mae’n bwyta, yn cysgu ac yn paru wrth hedfan. Bydd yn byw am 5 mlynedd ar gyfartaledd. Er hynny, roedd y wennol ddu hynaf a gofnodwyd yn 18 oed a’r amcangyfrif yw bod yr aderyn hwn wedi hedfan mwy na 4 miliwn o filltiroedd yn ystod ei oes. Fodd bynnag, mae’r gwenoliaid du mewn trybini. Mae arolygon wedi dangos bod eu poblogaeth wedi haneru yn y DU dros yr 20 mlynedd diwethaf. Yn wir, maen nhw bellach ar y rhestr oren. Cafwyd llawer o ymchwil i’r rhesymau dros y dirywiad hwn. Roedd yn ymddangos bod rhywogaethau eraill wedi dioddef o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd. Nid yw’n ymddangos bod hyn yn ffactor yn y dirywiad yn nifer y gwenoliaid du. Maent yn cyrraedd ar yr un adeg (wythnos gyntaf mis Mai fel arfer) ac ychydig o newid a gafwyd yn eu cynefinoedd gaeafu. A yw’r prinder safleoedd nythu yn ffactor yn y dirywiad hwn? Mae nifer mawr o safleoedd nythu traddodiadol y gwenoliaid du, fel hen gapeli, ysgolion etc. wedi cael eu dymchwel neu eu hadnewyddu, fel bod safleoedd nythu yn cael eu colli o ganlyniad.
Mae Clwb Adar Morgannwg yn cydweithio â Swift Conservation i geisio arafu’r dirywiad hwn drwy godi blychau nythu. Y brif broblem yw nad yw’r wennol ddu yn hoff o nythu mewn blychau. Bydd gwenoliaid du yn nythu mewn cytrefi gwasgaredig ac maent yn fwy tebygol o nythu mewn blychau sy’n agos i safleoedd nythu presennol. (Cynhaliwyd arbrofion drwy chwarae cân y wennol ddu i geisio denu’r adar i’r blychau nythu a chafwyd cryn lwyddiant.) Mae angen i ni gael gwybod ble mae’r gwenoliaid du yn nythu a gallwch chi ein helpu yn hyn o beth. Rydym yn gobeithio recriwtio nifer o “Hyrwyddwyr Gwenoliaid Du” i archwilio eu hardal leol a nodi ble mae gwenoliaid du yn nythu. Nid yw hyn mor hawdd ag y gallech feddwl, ond gallwn ni eich rhoi ar ben ffordd gyda’r dulliau archwilio. Rydyn ni hefyd yn gofyn i chi roi’r gair ar led – soniwch wrth eich cymdogion am yr adar rhyfeddol hyn. Gofynnwch iddynt ystyried gosod blychau nythu o dan y bondo. Os ydych yn gwybod am adeilad sy’n cael ei adnewyddu, lle mae gwenoliaid du wedi nythu, gofynnwch i’r datblygwyr ystyried cynnwys brics neu flychau i wenoliaid du yn eu cynlluniau.
Lle i’w gweld yn RhCT
Nythod mewn tyllau yn nhrawstiau adeiladau. Gallwch eu gweld yn sgrechian wrth hedfan uwchben pentrefi ledled RhCT yn yr haf, er bod eu niferoedd wedi gostwng, gwaetha’r modd.