Yn ddiweddar iawn y cafodd llygod y dŵr eu hailddarganfod yn RhCT ar ôl blynyddoedd lawer o fod heb gofnodion ohonynt. Wrth wneud gwaith archwilio mewn cysylltiad ag adfer mawnogydd o fewn ffermydd gwynt yr ucheldir yn RhCT, cafwyd hyd i boblogaethau o lygod y dŵr yn yr ucheldir ar draws eangderau’r mawnogydd, glaswelltiroedd corsiog a phlanigfeydd conwydd lle’r oedd coed wedi’u cwympo. Mae’r dirwedd eang hon yn yr ucheldir yn darparu cysylltedd rhwng cynefinoedd lle mae llygod y dŵr yn defnyddio’r rhwydweithiau o nentydd a mawnogydd cyfagos ac yn symud allan yn yr haf i laswelltir glaswellt y gweunydd a glaswelltir corsiog brwynog. Mae’r boblogaeth hon yn sicr o fod o bwysigrwydd cenedlaethol; mae’n bosibl bod llygod y dŵr wedi goroesi yma am nad yw’r mincod sy’n eu hysglyfaethu wedi cyrraedd y cyrsiau dŵr a mawnogydd agored hyn yn yr ucheldir. Bellach mae mesurau i warchod llygod y dŵr yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau ar gyfer adfer cynefinoedd y mawnogydd a sicrheir drwy gytundebau cynllunio ar gyfer datblygu ffermydd gwynt ac mae cyfrifoldeb neilltuol gan CNC (y prif gorff rheoli tir ar gyfer tirwedd llygod y dŵr) i sicrhau ei fod yn integreiddio mesurau i warchod llygod y dŵr yn ei gynlluniau coedwigaeth ar gyfer y dyfodol.
Lle i’w gweld yn RhCT
Cynefinoedd gwlyptir yn yr ucheldir rhwng RhCT ac ardal Castell-nedd Port Talbot